Mae’n bosib y bydd y Deyrnas Unedig yn wynebu problemau trafnidiaeth helaeth ar ddiwrnod cyntaf Brexit, os na fydd y Llywodraeth yn paratoi o flaen llaw.
Dyna yw rhybudd y Pwyllgor Materion Cartref, mewn adroddiad sydd yn beirniadu’r diffyg cynlluniau ar gyfer trefn tollau tramor newydd.
Yn yr adroddiad mae’r pwyllgor yn rhybuddio bydd “ciwiau milltir o hyd” wrth i gerbydau gael trafferth yn croesi’r ffiniau i’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi beirniadu’r cynlluniau ar gyfer cynyddu staff ar y ffiniau gan rybuddio y gallai mewnfudo anghyfreithlon gynyddu.
Diwrnod cyntaf Brexit
“Fel y mae hi, mae’r Llywodraeth dan berygl o ddathlu eu diwrnod cyntaf o Brexit â’r olygfa o giwiau milltir o hyd yng Nghaint a thagfeydd ar ffyrdd Gogledd Iwerddon,” meddai’r Aelod Seneddol Yvette Cooper, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Mi fyddai hyn yn niweidiol dros ben i economi’r Deyrnas Unedig, ac mi fyddai’n annerbyniol i’r wlad. Mae’n hanfodol bod gennym gynllun wrth gefn.”