Mae rhagor o honiadau bod Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol San Steffan, Priti Patel, wedi cynnal nifer o gyfarfodydd â Llywodraeth Israel tra ei bod hi ar wyliau teuluol yn y wlad.

Doedd hi ddim wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Prydain am y cyfarfodydd.

Roedd hi eisoes wedi cyfaddef iddi gynnal hyd at 12 o gyfarfodydd heb awdurdod, gan gynnwys un cyfarfod â’r Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi cynnal cyfarfod â’r Gweinidog Diogelwch Cyhoeddus ar Fedi 7, ac un arall â swyddog o’r Swyddfa Dramor yn Efrog Newydd ar Fedi 18.

Cafodd gweddill y cyfarfodydd eu cynnal yn ystod mis Awst.

Mae lle i gredu mai trafod cymorth meddygol i ffoaduriaid rhyfel cartref Syria oedd diben y cyfarfodydd, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oedd Llywodraeth Prydain yn gwybod ers y cychwyn y byddai hynny’n golygu ariannu byddin Israel.

Doedd neb arall o Lywodraeth Prydain yn bresennol yn y cyfarfodydd, a doedd hi ddim wedi adrodd yn ôl amdanyn nhw yn y modd priodol.

Ymchwiliad

Cyn yr honiadau diweddaraf, roedd y Blaid Lafur eisoes yn galw am ymchwiliad gan ymgynghorydd safonau’r Prif Weinidog.

Maen nhw’n honni ei bod hi wedi torri cod ymddygiad gweinidogol.

Ond roedd Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi datgan cyn yr honiadau diweddaraf fod ganddi ffydd yn Priti Patel er gwaetha’r honiadau.

Mae gweinidog o Swyddfa’r Cabinet wedi galw am eglurhad gan Theresa May ynghylch ei rhesymau tros gadw Priti Patel yn ei swydd, neu am ymchwiliad i’r honiadau.

Mae’r Blaid Lafur wedi gofyn cwestiwn brys yn San Steffan.