Mae angen i Lywodraeth Cymru ehangu’r ffordd maen nhw’n ariannu awtistiaeth a chynnig cymorth pellach i’r sector wirfoddol.

Dyma safbwynt yr ymgyrchydd Plaid Cymru, Aled Thomas, sydd ei hun ar y sbectrwm awtistiaeth ac sydd am weld gwasanaethau gwirfoddol yn derbyn cymorth pellach.

Mae Aled Thomas yn nodi bod llawer o elusennau’r sector wirfoddol yn cynnig “cymorth llawer fwy arbenigol” ac yn credu nad yw Llywodraeth Cymru yn eu “hadnabod fel angen”.

“Maen nhw dim ond eisiau datblygu’r hyn maen nhw eisiau gwneud,” meddai wrth golwg360. “Wrth ystyried bod £13m ar gael, dydyn nhw ddim yn ei ddefnyddio ar gyfer pob peth sydd angen.

“Mae pethau fel elusennau yn dibynnu ar arian oddi wrth y loteri neu bobol yn rhoi rhoddion. Dylai bod y Llywodraeth yn ehangu’r ffordd y maen nhw’n ariannu awtistiaeth ac i’w ymestyn i’r trydydd sector. Dyna fy nadl i.”

ASCC

Mae Aled Thomas yn tynnu sylw at un elusen benodol o’r drydydd sector sef Sbectrwm Awtistiaeth Cysylltiadau Cymru (ASCC) – elusen sy’n “wych”, meddai.

Yn ôl yr ymgyrchydd mae’r ASCC ar agor trwy’r amser ac yn cynnig cymorth a man cymdeithasu i bobol sydd ar y sbectrwm awtistig.

“Mae’n unigryw dros ben, a dyma’r unig elusen o’i fath yng Nghymru,” meddai. “Yr unig un arall sydd â strwythur yr un fath a’r un hon [yw elusen] yn yr Alban. Does dim un arall heblaw hon yng Nghaerdydd. A dyna ble ydw i ar hyn o bryd!”

Mae’r ymgyrchydd wedi llunio deiseb i Lywodraeth Cymru yn galw am ragor o arian i ASCC.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.