Mae arweinyddion y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn dweud eu bod yn ffyddiog bod modd adfer y drefn rhannu grym yng Ngogledd Iwerddon.
Mae pleidiau Stormont eisoes wedi methu sawl terfyn amser ar gyfer dod i gytundeb, ac mae’n debygol y bydd San Steffan yn ymyrryd os na chaiff dêl ei harwyddo’n fuan.
Yn ôl datganiad o swyddfa’r Taoiseach yn Nulyn, mae pleidiau Stormont yn nesáu at gyfaddawd ac mae arweinyddion Prydain ac Iwerddon “yn gytûn bod yna eto amser”.
“Mae’r ddau arweinydd yn credu bod sefydlu adran weithredol fyddai’n fuddiol i holl bobol Gogledd Iwerddon, o hyd yn bosib,” meddai’r datganiad.
Mae’n ymddangos bod y Taoiseach, Leo Varadkar, a’r Prif Weinidog, Theresa May, yn cytuno nad ydyn nhw am weld Stormont yn cael ei rheoli’n uniongyrchol gan Lundain.
Y Wyddeleg
Cefnodd Sinn Fein ar y cytundeb rhannu grym â’r DUP ym mis Ionawr, ac ers hynny mae Gogledd Iwerddon wedi bod heb Lywodraeth.
Hyd yma mae anghydfod dros sawl mater wedi rhwystro’r ddwy blaid rhag dod i gyfaddawd gan gynnwys yr iaith Wyddeleg a diwylliant.