Llys y Goron Caerdydd
Mae Sky News wedi galw am gael cynnwys camerâu mewn llysoedd barn fel bod gan y cyhoedd gwell ddealltwriaeth o beth sy’n mynd ymlaen, heddiw.

Mewn llythyr agored at yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Ken Clarke, galwodd pennaeth Sky News, John Ryley, am ganiatáu camerâu mewn llysoedd.

Dywedodd nad oedd y cyhoedd wedi deall pam fod rhai troseddwyr fu’n rhan o’r terfysgoedd diweddar yn Lloegr wedi cael cyfnodau hir yn y carchar ac eraill wedi eu gadael yn rhydd.

Mae camerâu wedi eu gwahardd o’r llysoedd dan Adran 51 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1925.

Ym mis Ionawr 2010 cyhoeddodd John Ryley ei fod yn bwriadu herio’r gwaharddiad ar gamerâu mewn llysoedd barn.

Dywedodd yn ei lythyr newydd y byddai’r gallu i ddangos sylwadau’r barnwr wrth ddedfrydu person, a chyhoeddiad y ddedfryd, yn fan cychwyn.

“Mae’r dadlau brwd ynglŷn â’r dedfrydau yn sgil y terfysgoedd yn dangos unwaith eto fod diffyg tryloywder yn ein system farnwrol,” meddai.

“Nid yw’n syndod fod y cyhoedd wedi eu drysu ynglŷn â’r anghysondebau yma.

“Pe bai’r camerâu teledu yn cael darlledu sylwadau’r barnwyr rydw i’n credu y byddai yn gwneud y broses yn fwy tryloyw ac yn rhoi hwb i hyder y cyhoedd yn y system.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod nhw wedi derbyn cynigion gan Sky, y BBC ac ITV ynglŷn â chaniatáu camerâu mewn llysoedd barn.

“Mae’r Arglwydd Ganghellor yn awyddus i ymgynghori â’r farnwriaeth cyn derbyn unrhyw gynigion penodol,” meddai.