David Cameron
Mae’r ffefryn i gymryd yr awenau yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn yr Alban yn bwriadu ei chwalu a dechrau plaid adain dde newydd, cyhoeddwyd heddiw.

Bydd Murdo Fraser yn cyhoeddi cynllun i ddod a’r blaid i ben yn y wlad os yw’n ennill pleidlais ar y mater.

Fe fyddai yna’n sefydlu plaid geidwadol Albanaidd newydd fyddai yn brwydro mewn etholiadau yn San Steffan, Senedd yr Alban a chynghorau.

Dywedodd Murdo Fraser fod enw’r Ceidwadwyr yn “wenwyn” yn yr Alban ers iddyn nhw golli pob un o’u Haelodau Seneddol yno yn 1997.

Yn ôl papur newydd y Daily Telegraph mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi cael gwybod am y cynllun ond wedi penderfynu peidio ymyrryd nes bod yr etholiad i ddewis arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn yr Alban ar ben.

Mae disgwyl i Murdo Fraser ddatgelu ei gynlluniau yn llawn yfory, gan ddweud ei fod yn bwriadu “sefydlu plaid newydd ar gyfer Alban newydd”.

Bydd gan y blaid newydd “gred mewn datganoli. Dull newydd o greu polisi. Enw newydd.”

Serch hynny mynnodd y byddai gan y blaid newydd “neges gadarnhaol ynglŷn â budd aros o fewn a chryfhau’r Deyrnas Unedig”.

Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, yr Arglwydd Forsyth, wedi beirniadu’r cynllun gan ddweud ei fod yn “ddiniwed ac eithafol”.

“Dyw newid enw’r blaid a chilio oddi wrth weddill y blaid Geidwadol ddim yn mynd i arwain at lwyddiant etholiadol,” meddai.

“Daw llwyddiant etholiadol ar gefn polisïau credadwy. Rydw i’n credu eu bod nhw’n ceisio cymodi â’r cenedlaetholwyr a bydd hynny yn methu.

“Mae unrhyw bolisi sy’n ceisio cymodi â’r cenedlaetholwyr yn mynd i wneud niwed i’r undeb.”