Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud eu bod nhw’n amcangyfrif mai’r haf eleni oedd yr oeraf ers bron i 20 mlynedd.

Dim ond 13.63 gradd Celsius oedd y tymheredd cyfartalog eleni, yn agos iawn at yr 13.39 gradd Celsius yn haf 1993.

Heddiw yw diwrnod olaf yr haf ac mae’r ffigyrau yn seiliedig ar y tymheredd rhwng 1 Mehefin a 29 Awst, medden nhw.

Ond er gwaethaf yr oerfel roedd yr haf eleni yn sychach o lawer na hafau 2007, 2008 a 2009, meddai proffwydi’r tywydd.

Dim ond 267.7mm o law sydd wedi disgyn ar draws y Deyrnas Unedig rhwng dechrau Mehefin a diwedd mis Awst eleni, o’i gymharu â 323mm yn 2009.

Ond roedd yr haf y llynedd yn sychach. Dim ond 243.8mm o law ddisgynnodd bryd hynny.

“Mae wedi bod yn haf cyfnewidiol iawn. Rydyn ni wedi cael ysbeidiau poeth iawn, gan gynnwys ym mis Mehefin pan oedd y tymheredd tua 33 gradd Celsius.

“Ond rydyn ni hefyd wedi gweld cyfnodau llawer oerach a gwlypach.”

Roedd hi’n fis Awst siomedig eleni meddai proffwydi’r tywydd, gyda dim ond tua thri chwarter cymaint o heulwen a’r cyfartaledd.