Mae carfan o feddygon wrthi’n paratoi i herio penderfyniad y llywodraeth i beidio â gorchymyn cwest i farwolaeth yr arbenigwr arfau Dr David Kelly.
Ym mis Mehefin, fe wnaeth y Twrnai Cyffredinol Dominic Grieve wrthod cais o’r fath gan ddweud wrth Aelodau Seneddol fod y dystiolaeth i Dr Kelly gyflawni hunanladdiad yn “llethol”.
Ond mae’r meddygon yn cyhuddo’r Llywodraeth o fod yn rhan o ymgais i gelu’r gwirionedd, gan ddweud y byddan nhw’n ceisio cael adolygiad barnwrol o benderfyniad Dominic Grieve.
Cafwyd hyd i gorff Dr Kelly mewn coed gerllaw ei gartref yn Swydd Rhydychen yn 2003, ychydig cyn iddo gael ei ddatgelu fel ffynhonnell adroddiad gan y BBC yn cwestiynu cywirdeb dogfen gan y Llywodraeth yn cyfiawnhau’r achos dros ryfel yn Irac.
Yn ôl Dr David Halpin, cyn-lawfeddyg sydd wedi ymgyrchu’n ddygn dros “ymchwiliad go iawn” i farwolaeth Dr Kelly, mae “cannoedd o gwestiynau” yn dal heb eu hateb.
“Mae’r wlad yma’n llawn celwydd a’r unig ffordd i fynd i’r afael â’r celwydd yw ei herio a’i ddinoethi,” meddai.
“Mae llawer o gwestiynau heb gael eu hateb, a llawer o atebion heb gael eu cwestiynu.
“Pam nad yw Dr Kelly wedi cael cwest?”
Costau cyfreithiol
Mae angen i’r grŵp godi £50,000 i dalu ffioedd cyfreithiol cychwynnol a rhaid i gyfreithwyr gael eu cyfarwyddo erbyn 30 Awst er mwyn i’r gweithrediadau gychwyn erbyn 8 Medi, y dyddiad olaf ar gyfer lansio adolygiad barnwrol.
Fe ddaeth Ymchwiliad Hutton yn 2004 i’r casgliad bod Dr Kelly wedi cyflawni hunanladdiad. Mae eu hadroddiad, fodd bynnag, wedi cael ei gollfarnu gan ymgyrchwyr fel ymgais i wyngalchu’r llywodraeth.