Tripoli - argyfwng dyngarol
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn anfon bwyd a nwyddau meddygol i Libya wrth i bryderon gynyddu am argyfwng dyngarol yno.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod angen mawr am gymorth wrth i’r wlad fod heb lywodraeth yn sgil yr ymladd rhwng gwrthryfelwyr a lluoedd yr arlywydd, y Cyrnol Gaddafi.

Fe ddywedodd Ban ki-Moon fod diffyg bwyd a moddion a phroblemau gyda chyflenwad dŵr y brifddinas, Tripoli.

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth yn Llundain heddiw y bydd yn anfon bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer tua 5,000 o bobol sydd wedi eu hanafu a bron 700,000 o bobol  sydd mewn angen.

Fe fydd y cymorth yn cael ei weinyddu gan Bwyllgor Rhyngwladol elusen y Groes Goch gyda chefnogaeth yr Adran Ddatblygu Rhyngwladol.