Nick Clegg
Mae rhywun wedi taflu tun o baent glas ar ben y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wrth iddo ymweld â’r Alban.
Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Glasgow yn cwrdd ag aelodau llawr gwlad y blaid heddiw.
Llwyddodd dau ddyn i sleifio i mewn i’r cyfarfod a thaflu paent ar Nick Clegg ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie.
Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r paent wedi glanio ar Willie Rennie.
Dyw hi ddim yn amlwg eto ai aelodau o’r blaid oedd y ddau.
“Dau unigolyn blin oedd yn gyfrifol,” meddai Willie Rennie. “Doedden nhw ddim am drafod eu pryderon o flaen llaw, dim ond codi twrw.
“Ond mae eu hymddygiad nhw wedi tanseilio unrhyw neges oedd ganddyn nhw.
“Roeddwn i eisiau lliwio fy ngwallt yn las pan oeddwn i’n ifanc ond doedd mam ddim yn caniatáu.”
Dywedodd yr heddlu fod un dyn yn ei 20au wedi ei arestio mewn cysylltiad â beth ddigwyddodd yn Woodside Hall yn Glasgow.