Jacqui Smith
Mae’r cyn Ysgrifennydd Gwladol, Jacqui Smith, wedi amddiffyn caniatáu i garcharorion baentio ei thŷ gan ddweud “nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth arall i’w wneud”.
Cyfaddefodd y cyn Aelod Seneddol fod dau garcharor o HMP Hewell yn Redditch wedi paentio rhan o’i chartref.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai fod y troseddwyr i fod yn gwneud gwaith oedd o fudd i’r gymuned gyfan.
Roedden nhw wedi eu rhyddhau o’r carchar am ddiwrnod er mwyn gweithio yn y gymuned fel rhan o waith elusen y Batchley Support Group.
“Cymerwyd y penderfyniad i ddarparu carcharorion ar gyfer y gwaith yma heb ymgynghori â HMP Hewell na’r Weinyddiaeth Gyfiawnder – roedd yn gamgymeriad,” meddai.
“Dylai troseddwyr weithio ar brosiectau sydd o fudd i’r gymuned gyfan. Mae’r cynllun wedi ei atal dros dro wrth i ni gynnal ymchwiliad mewnol trylwyr.”
Wrth siarad ar y radio bore ma dywedodd Jacqui Smith ei bod hi eisiau “i bobol gael gwybod y gwirionedd,” ac fe gyhuddodd papur newydd y Sun o “ymosod arna’i”.
“Un dydd, pan nad oedden nhw’n gwneud dim byd arall, fe ddaethon nhw draw i’r tŷ a paentio am dair awr.
“Fe wnes i a fy ngŵr roi arian i’r grŵp cymunedol er mwyn diolch am y gwaith.”