Darren Millar
Mae dedfryd o bedwar mis yn y carchar i ddyn o Fangor oedd wedi annog cyfeillion ar Facebook i ddechrau reiat yn “rhy drugarog” yn ôl Aelod Cynulliad Ceidwadol.
Cafodd David Glyn Jones, 21 oed, o Fangor, Gwynedd, ei ddedfrydu gan Lys Ynadon Caernarfon ddoe ar ôl cyfaddef iddo dorri’r gyfraith dan y Ddeddf Gyfathrebu.
Daw ei achos llys wedi i ddau ddyn o Swydd Gaer gael eu dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar am yr un drosedd.
Dywedodd Aelod Cynulliad Clwyd, Darren Millar, ei fod wedi ei siomi gan ddedfryd David Glyn Jones.
Roedd angen “gwneud esiampl” o unigolion o’r fath, meddai.
Yr achos
Roedd David Glyn Jones wedi creu tudalen digwyddiad ar Facebook ar 9 Awst gan ddweud; “Beth am ddechrau terfysg ym Mangor… hoffwn i falurio car heddlu, beth amdanoch chi?”
Roedd y neges ar-lein am 20 munud a doedd yna ddim terfysg ym Mangor.
Dywedodd David Glyn Jones ei fod yn difaru’r neges, gan ddweud ei fod yn “dwp”. Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai unrhyw un yn ei gymryd o ddifri.
Daw ei ddedfryd wedi i Jordan Blackshaw, 21, o Vale Road, Marston, a Perry Sutcliffe-Keenan, 22, o Richmond Avenue, Warrington, gyfaddef i annog pobol eraill i gynnal reiat drwy gyfrwng Facebook.
Cafodd y ddau eu dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar, a dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y troseddau yn rhai “difrifol iawn”.
Dywedodd Darren Millar y dylai’r llysoedd fod wedi trin David Glyn Jones yn yr un modd.
“Roeddwn i’n hapus iawn wrth glywed am y dedfrydau llym – dyna y mae’r cyhoedd eisiau ei weld,” meddai.
“Ond roeddwn i’n siomedig mai dim ond pedwar mis gafodd Jones – rydw i’n credu fod y cyd-destun yn bwysicach na’r pryderon eraill.
“Mae’r rhain yn faterion difrifol iawn – wrth ystyried y difrod a achoswyd ac a allai fod wedi ei achosi mae’n ddedfryd drugarog iawn.”
‘Dim terfysg yng Nghymru’
Ond dywedodd David Banks, arbenigwr ar gyfraith y cyfryngau, fod yr achos yng ngogledd Cymru a Swydd Gaer yn wahanol iawn.
“Roedd y dynion yn Swydd Gaer wedi nodi amser a lle penodol i’r bobol ymgynnull, ond roedd neges Jones yn amhendant,” meddai.
“Mae’n annheg beirniadu ynadon Caernarfon am y ddedfryd, allen nhw ddim ond gweithredu o fewn y grymoedd sydd ganddyn nhw.
“Dim ond am chwech mis fydden nhw wedi gallu ei anfon i’r carchar beth bynnag.
“Rhaid ystyried y cyd-destun hefyd. Ar y pryd roedd yna derfysg yn digwydd yng ngogledd orllewin Lloegr. Doedd yna ddim byd yn digwydd yng Nghymru.”