Clogwyni Ynys Wyth (llun Barbara Mürdter)
Mae dyn a dynes wedi marw ar ôl i’w car ddisgyn o glogwyn ar Ynys Wyth.
Dywedodd Heddlu Hampshire eu bod nhw wedi casglu eu cyrff o gar glas ar waelod clogwyni Culver Down, sydd tua 300 troedfedd o uchder.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 8pm a brysio i gasglu cyrff y ddau o’r car “oedd wedi ei ddifrodi’n fawr” cyn i’r llanw ddod o mewn, meddai Gwylwyr y Glannau Solent.
Roedd Anne Ricketts, 47, o Sundown, yn mynd a’i chi am dro ar hyd y traeth adeg y ddamwain.
Dywedodd ei fod wedi gweld tractor yn llusgo cerbyd oedd yn cynnwys pedwar diffoddwr tân i gyfeiriad y traeth.
Yn fuan wedyn gwelodd hofrennydd gwylwyr y glannau yn gollwng rhywun i mewn i’r dŵr, a “llond tryc” o achubwyr yn cyrraedd lle y digwyddodd y ddamwain.
Ychwanegodd ei bod hi wedi gweld bad achub Sefydliad Brenhinol y Badau Achub Bembridge “yn agos at y clogwyn”.
Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ac fe ddylai unrhyw lygaid dystion ffonio Heddlu Newport, Ynys Wyth.