Richard Bowes
Fe fydd bachgen 16 oed yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn fu farw ar ôl cael ei anafu yn ystod terfysg Llundain, meddai Scotland Yard.

Fe fu farw Richard Bowes, 68, ddydd Iau ar ôl yr ymosodiad arno yn ystod terfysg yn Ealing, gorllewin Llundain, ddydd Llun diwethaf.

Mae’r bachgen o Hounslow hefyd wedi ei gyhuddo o anhrefn treisgar a phedwar achos o fyrgleriaeth.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod mam y bachgen wedi ei chyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cadarnhaodd Heddlu’r Met fod dynes 31 oed o Hounslow gafodd ei arestio’r un pryd, wedi ei chyhuddo.

Fe fydd y bachgen yn ymddangos o flaen Llys Ieuenctid Croydon, a’i fam yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Croydon.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud y dylai bachgen 16 oed gael ei gyhuddo o lofruddio Richard Mannington Bowes,” meddai pennaeth uned llofruddiaethau Gwasanaeth Erlyn y Goron Llundain, Daren Streeter.

Roedd Richard Mannington Bowes, oedd yn byw ar ei ben ei hun yn Haven Green, Ealing, ar beiriant cynnal bywyd yn dilyn yr ymosodiad.

Dangosodd archwiliad post mortem ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w ben.