Mae’r haf ar ben, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd heddiw.

Er nad yw’r tymor yn gorffen yn swyddogol nes ddiwedd y mis mae disgwyl tywydd glawog, oer a gwyntog am weddill mis Awst.

Y tywydd cynnes dros y penwythnos diweddaraf fydd y llygedyn olaf o haf am flwyddyn arall, medden nhw.

Mae proffwydi’r tywydd yn disgwyl i’r glaw barhau nes bod yr hydref yn cyrraedd fis nesaf.

Fe fydd yna ddechrau gwlypach ac oerach na’r cyfartaledd i fid Medi hefyd, medden nhw.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod Prydain wedi mwynhau dim ond dau ddiwrnod poethach na’r cyfartaledd yn ystod yr haf.

Cyrhaeddodd y tymheredd 33.1 gradd Celsius yn Swydd Caint ar 27 Mehefin, a 30.3 gradd Celsius yn yr un sir ar 3 Awst.

“Mae’r haf yma wedi bod yn un digalon iawn,” meddai Jonathan Powell o Positive Weather Solutions. “Does dim gobaith am dywydd braf am weddill mis Awst.

“Roedd yr haf wedi gaddo yn dda eleni ond dim ond ambell lygedyn o dywydd braf sydd wedi bod. Mae yna ormod o dywydd oer a gwlyb wedi chwythu i mewn o’r Iwerydd.

“Bydd pawb yn gobeithio am dywydd braf ar ŵyl y banc olaf y mis (ddydd Llun 15 Awst), ond dyw hi ddim yn addo’n dda ar hyn o bryd.”