George Osborne, y Canghellor
Mae George Osborne wedi cyfaddef heddiw y bydd adferiad economaidd Prydain yn “hirach ac anoddach” nag yr oedd wedi ei ddisgwyl.
Dywedodd y Canghellor fod ymdrechion y llywodraeth i fynd i’r afael â’r diffyg ariannol wedi gwneud y wlad yn “harbwr saff”, ond y byddai’r “storm fyd-eang” yn taro Prydain yr un fath.
Wrth i’r FTSE syrthio o dan y trothwy 5,000 o bwyntiau heddiw, rhybuddiodd fod y byd yn wynebu’r argyfwng ariannol mwyaf ers chwalfa 2008.
“Mae hanes yn dangos fod adferiad o’r math yma o ddirwasgiad yn mynd i fod yn un garw ac anodd,” meddai wrth Dŷ’r Cyffredin.
“Roedden ni wedi dweud o’r cychwyn cyntaf y byddai hynny’n wir.
“Mae’r byd bellach wedi sylweddoli fod yr holl ddyled sydd gennym ni yn golygu y bydd yr adferiad yn cymryd yn hirach ac yn anoddach nag yr oedden ni wedi gobeithio.
“Mae’r marchnadoedd newydd sylweddoli hynny ac o ganlyniad dyma’r cyfnod peryclaf i’r economi fyd-eang ers 2008.
“Rydw i’n credu y dylen ni fod yn agored am hynny. Rydw i’n credu y dylen ni ail-ystyried ein disgwyliadau ar sail hynny.”