Vince Cable
Mae’r cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, a’r Ysgrifennydd Busnes wedi galw am fwy o dwf a swyddi er mwyn achub yr economi.

Ac mae’r llefarydd Llafur ar yr economi wedi condemnio’r Prif Weinidog a’r Canghellor am fod allan o’r wlad ar wyliau.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, mae angen rhagor o dwf a swyddi er mwyn atal yr economi rhag ail ddirwasgiad yn sgil trafferthion ariannol Ewrop a’r Unol Daleithiau.

“Mae safonau byw pobol wedi cael eu taro’n galed,” meddai ym mhapur y Sunday Times. “Wnaiff hynny ddim ond newid os ydyn ni’n cael twf cynaliadwy.”

Ar wyliau

Ond roedd y llefarydd Llafur, Ed Balls, yn ffyrnig yn ei feirniadaeth ar y Llywodraeth gan gyhuddo’r pedwar ffigwr pwysicaf – y Prif Weinidog, y Canghellor a’u dirprwyon i gyd – i ffwrdd ar wyliau yr un pryd.

Ond, yn ôl Ed Balls, roedd y problemau presennol yn ganlyniad i fethiant y Llywodraeth tros flwyddyn gyfan, gyda’r Canghellor, George Osborne, yn methu â chymryd rhan amlwg mewn trafodaethau rhyngwladol.