Maes yr Eisteddfod
Mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ymddiheuro i arweinydd côr ar ôl i sŵn o’r Maes amharu ar eu perfformiad.
Roedd rhaid i’r beirniaid atal y cystadlu yng nghystadleuaeth y corau meibion bach oherwydd sŵn o uned Bwrdd yr Iaith ac un o’r llwyfannau perfformio, ddoe.
Roedd sŵn lorri hefyd wedi effeithio ar ragbrofion Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, prif gystadleuaeth y llefarwyr.
Heddiw, fe ddywedodd Elfed Roberts mai sŵn oedd un o’r problemau y byddai’n rhaid eu hystyried wrth adolygu’r brifwyl eleni.
‘Achosi pryder’
“Mae sŵn weithiau’n amharu ar weithgaredd ac mae hynny’n achosi pryder i ni,” meddai Elfed Roberts. “Dw i wedi ymddiheuro i arweinydd un o’r corau.
“Ond os ydach chi’n cynnal digwyddiad ar faes efo adeiladau symudol, mae rhai problemau yn anorfod. Roedd y gwynt wedi newid cyfeirid nos Wener.
“Dw i wedi ymddiheuro hefyd am y sŵn lorri yn ystod y Llwyd o’r Bryn ond, yn anffodus, os ydi toiledau’n llawn, mae’n rhaid cael lorri i’w gwagio.”