Mae bachgen 15 oed wedi marw ar ôl taro carw wrth seiclo â’i ffrindiau.
Dioddefodd Ben Madden anafiadau difrifol i’w ben yn y gwrthdrawiad ar hewl wledig yn Nwyrain Swydd Efrog wythnos yn ôl.
Aethpwyd ag ef i Ysbyty Brenhinol Hull ond fe fu farw fory dydd Sul, meddai’r heddlu.
Roedd y llanc o Brough yn seiclo mewn coedwig yn Elloughton Dale ddydd Mawrth diwethaf pan redodd y carw allan o’i flaen a tharo ei olwyn.
Dywedodd llygaid-dystion nad oedd yn gwisgo helmed.
Ceisiodd ei ffrindiau a gyrrwr oedd yn teithio heibio ei helpu a galw parafeddygon ond roedd wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben.
“Rydyn ni’n paratoi adroddiad ar gyfer y crwner a bydd y cwest yn dechrau yn y man,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Humberside.
Mae ei ffrindiau wedi sefydlu tudalen Facebook sydd wedi denu nifer o sylwadau yn talu teyrnged iddo.