Madeleine McCann
Mae heddlu India wedi gwneud prawf DNA ar ferch ifanc er mwyn gweld ai hi yw Madeleine McCann.

Roedd Prydeinwraig yn rhan o grŵp o bobol yn ninas ogleddol Leh a welodd y ferch gyda dyn a dynes.

Ceisiodd hi gymryd y ferch oddi ar y cwpwl oedd yn honni maen nhw oedd ei rhieni hi. Cymerodd yr heddlu eu pasbortau oddi arnyn nhw wrth ymchwilio i’r honiadau.

Mae ymchwilwyr preifat hefyd yn edrych i mewn i’r mater ac yn bwriadu rhoi gwybod i rieni Madeleine McCann pan ddaw canlyniadau y prawf DNA yn ôl.

Diflannodd Madeleine McCann ar wyliau teuluol ym Mhortiwgal yn 2007.

“Mae ein hymchwilwyr preifat yn ymwybodol o’r adroddiadau o India ac yn cyd-weithio â’r awdurdodau yno,” meddai llefarydd ar ran Gerry a Kate McCann, rhieni Madeleine.