Fe ddylai cwmnïau egni orfod talu iawndal i gwsmeriaid oedd wedi eu twyllo gan werthwyr ar eu stepen drws.

Dywedodd y Pwyllgor Dethol Egni a Newid Hinsawdd eu bod nhw’n pryderu fod gwerthwyr yn annog cwsmeriaid i newid i gytundebau sydd ddim gwell neu yn waeth na’u cytundebau presennol.

Yn ôl y rheolydd egni Ofgem dyw 40% o’r rheini sy’n newid ddim yn cael cytundeb gwell.

“Os yw’n dod i’r amlwg fod cwsmeriaid yn cael eu hannog i newid i gontractau sydd ddim o fudd iddyn nhw, gan werthwyr sy’n awyddus i sicrhau comisiwn, fe ddylai’r cwmnïau egni orfod talu iawndal,” meddai Tim Yeo, cadeirydd y pwyllgor dethol.

Roedd yn annog cwmnïau i fwrw ati eu hunain heb ddisgwyl am y Llywodraeth neu Ofgem i weithredu.

Yn ddiweddar mae cwmni Scottish & Southern Energy wedi rhoi’r gorau i werthu ar y stepen drws ar ôl i Gyngor Sir Surrey ennill achos o gam-werthu yn eu herbyn.

Croesawodd Tim Yeo eu penderfyniad a galw ar y cwmnïau eraill i roi’r gorau i’w “triciau Del Boy” a chanolbwyntio ar roi’r holl wybodaeth sydd ei angen arnynt i gwsmeriaid.

Dywedodd Mike O’Connor, prif weithredwr Consumer Focus, ei fod yn croesawu ymyrraeth yr Aelodau Seneddol.

“Mae yna sicrwydd a ydi cwsmeriaid yn gallu ymddiried mewn cwmnïau egni i werthu yn deg, yn enwedig ar y stepen ddrws,” meddai.

“Ni ddylai unrhyw farchnad gael drysu, a darparu gwybodaeth gamarweiniol i gwsmeriaid, yn enwedig un sy’n darparu cynnyrch angenrheidiol sy’n mynd yn fwy a mwy costus.”