Mae tua 25 o forfilod peilot wedi marw ar ôl cael eu dal ar arfordir pegwn gogleddol Ynysoedd Prydain.

Dywedodd achubwyr fu’n ceisio achub tua 60 o forfilod yng nghilfach Kyle Durness yn ucheldiroedd yr Alban fod degau ohonyn nhw wedi eu dal gan y llanw isel.

Fe aeth tua 35 o’r morfilod yn gaeth wrth i’r dŵr yn y loch morol encilio ddoe.

Llwyddwyd i symud tua 10 ohonynt i ddŵr dyfnach ar bontynau llawn aer wrth i’r llanw ddod yn ôl i mewn, ond roedd y gweddill eisoes wedi trigo.

Dywedodd elusen British Divers Marine Life Rescue fod nifer o’r morfilod wedi mynd yn gaeth ar eu hochrau, ar ben ei gilydd neu ben i drosodd, ac yn anadlu tywod i mewn.

Mae tua 20 arall mewn dŵr dyfnach a does dim bygythiad iddyn nhw ar hyn o bryd, meddai’r elusen.

Mae morfilod pilot yn byw mewn dŵr dwfn ond yn dod yn agosach at yr arfordir o bryd i’w gilydd er mwyn gwledda ar fôr lewys.

Maen nhw’n tueddu i symud â’i gilydd, sy’n gallu bod yn broblem os yw un yn mynd yn sâl ac yn arwain y gweddill i drybeini.

“Mae Kyle Durness yn gilfach gul a dryslyd iawn i’r morfilod,” meddai Mark Simmonds o Gymdeithas Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid.

“Mae’n bosib bod rywbeth wedi codi ofn arnyn nhw a’u bod nhw wedi ffoi i’r gilfach, ac wedyn methu a gadael.”