Mae pennaeth heddlu sydd wedi gorfod ymddiswyddo yn sgil sgandal hacio ffonau symudol papur newydd y News of the World yn bwriadu mynd â phapur newydd arall i’r llys, yn ôl adroddiadau heddiw.

Mae cyn gomisiynydd-cynorthwyol Scotland Yard, John Yates, wedi dechrau achos enllib yn erbyn papur newydd yr Evening Standard.

Yn ôl ei gyfreithiwr, Luke Staiano, mae’r honiadau yn ymwneud ag adroddiadau oedd yn y papur ar 7 Gorffennaf.

Dywedodd fod y papur wedi cyhoeddi “honiadau difrïol iawn” am John Yates.

Cyhoeddodd John Yates ei fod yn ymddiswyddo o Scotland Yard dydd Llun, wrth i Heddlu’r Met ei ddiarddel ac anfon manylion ei berthynas ag un o’r dynion sy’n ganolog i’r sgandal hacio ffonau, Neil Wallis, ymlaen at Gomisiwn Cwynion Heddlu Annibynnol.

Wrth ymddangos o flaen Aelodau Seneddol y diwrnod wedyn, dywedodd fod ei “gydwybod yn glir” ynglŷn â sgandal sydd wedi rhoi’r berthynas rhwng yr heddlu, y wasg, a’r gwleidyddion o dan y chwyddwydr.