Y gwrandawiad
Mae’n bosib y bydd rhaid i James Murdoch egluro ei dystiolaeth i Bwyllgor Dethol Diwylliant Tŷ’r Cyffredin, yn ôl y cadeirydd John Whittingdale.
Daw ei sylwadau ar ôl honiadau gan ddau o gyn-weithwyr News International fod cadeirydd y cwmni wedi gwneud “camgymeriad” yn ystod y gwrandawiad ddydd Mawrth.
Roedd wedi rhoi tystiolaeth ar y pryd â’i dad Rupert Murdoch.
Dywedodd James Murdoch wrth y pwyllgor nad oedd “yn ymwybodol” o e-bost oedd yn awgrymu fod hacio ffonau symudol ym mhapur newydd y News of the World yn mynd y tu hwnt i un unigolyn.
‘Wedi rhoi gwybod’
Ond mewn datganiad a ryddhawyd neithiwr, dywedodd cyn-olygydd y News of the World, Colin Myler, a chyn-reolwr cyfreithiol News International, Tom Crone, eu bod nhw wedi rhoi gwybod i James Murdoch am yr e-bost.
Dywedodd yr Aelod Seneddol John Whittingdale nad oedd wedi gweld y datganiad, ond fod James Murdoch eisoes wedi cytuno i ysgrifennu at y pwyllgor er mwyn esbonio ambell i gwestiwn nad oedd wedi llwyddo i fynd i’r afael â nhw yn ystod y gwrandawiad.
“Os yw’r datganiad yn awgrymu nad yw beth mae Colin Myler wedi ei ddweud a beth y mae [James Murdoch[ wedi ei ddweud yn cyd-fynd, bydd rhaid iddo ateb cwestiwn am hynny hefyd,” meddai.
Mewn datganiad dywedodd James Murdoch nad oedd yn dymuno newid ei atebion i’r pwyllgor dethol.