Chris Bryant
Fe fydd Aelodau Seneddol yn cynnal dadl brys er mwyn trafod a ddylid gorchymyn ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal hacio ffonau symudol.

Daw hyn yn dilyn honiadau fod ymchwilydd preifat oedd yn gweithio i bapur newydd y News of the World wedi hacio i mewn i ffôn y ferch ysgol Milly Dowler ar ôl iddi fynd ar goll.

Dywedodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, y bydd y mater yn cael ei drafod ddydd Mercher.

Daw’r ddadl wedi i Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, gyhuddo papur newydd y News of the World o “chwarae Duw â theimladau’r teulu”.

Mae hefyd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y News of the World ar ôl honiadau fod ei ffôn ef hefyd wedi ei hacio.

Galwodd am ymchwiliad cyhoeddus gan ddweud fod Heddlu’r Met wedi methu ag ymchwilio’n iawn i’r hyn ddigwyddodd.

“Does yna’r un person yn y wlad yma sydd ddim wedi ffieiddio wrth glywed y newyddion fod ditectif preifat oedd yn gweithio i’r News of the World wedi hacio ffôn symudol Milly Dowler,” meddai.

“Roedd wedi dileu rhai o’i negeseuon hi gan roi gobaith ffug i’r teulu ei bod hi yn parhau yn fyw.

“Nid yn unig oedd y papur tu hwnt i bob rheolaeth, ond hefyd yn credu ei fod y tu hwnt i’r gyfraith. Roedd papur cenedlaethol wedi chwarae Duw â theimladau’r teulu.”

Mae rhieni Milly Dowler wedi penderfynu cymryd camre cyfreithiol yn erbyn papur newydd y News of the World yn dilyn yr honiadau.

Dywedodd Bob a Sally Dowler fod negeseuon ar ffôn eu merch wedi eu dileu yn ystod y diwrnodiau ar ôl iddi ddiflannu a bod hynny wedi rhoi gobaith iddyn nhw ei bod hi yn dal yn fyw.

Dywedodd eu cyfreithiwr, Mark Lewis, y gallai’r gweithredoedd “gwarthus” fod wedi peryglu ymchwiliad yr heddlu.

Heddiw dywedodd Prif Weithredwr News International, Rebekah Brooks, oedd yn olygydd y papur newydd ar y pryd, ei bod hi wedi ei “harswydo” gan y cyhuddiadau.