Mae llywodraeth Prydain yn benderfynol o ddal gafael ar yr ad-daliad blynyddol o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd, doed a ddelo.

Dyna oedd ymateb y Trysorlys i gynnig gan lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jose Mauel Barroso, i roi un swm ‘unwaith ac am byth’ o £23 biliwn i Brydain yn gyfnewid am roi’r gorau i’w ad-daliad blynyddol.

Gyda chyllideb nesaf yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei pharatoi ar gyfer y blynyddoedd 2014-20, byddai’r Prif Weinidog David Cameron, petai’n derbyn cynnig y Comisiwn, yn derbyn siec anferth flwyddyn cyn etholiad cyffredinol.

Dywed Jose Manuel Barroso fod y Comisiwn yn awyddus i fynd yn ôl at “egwyddorion gwreiddiol” y fargen a gafodd ei tharo gan Margaret Thatcher yn 1984, sef bod cyfraniad sy’n anghymesur â chyfoeth cymharol gwlad yn cael ei “gywiro” pan osodir y gyllideb.

Rhwystr

Mae o’r farn fod ad-daliad Prydain wedi achosi rhwystrau mewn trafodaethau cyllidebol yr Undeb Ewropeaidd dros y 30 mlynedd ddiwethaf – ac nad oes “fawr neb” yn deall y system.

Roedd Prydain wedi ennill ei hawl i ad-daliad yn wreiddiol ar sail y ffaith ei bod hi’n gwneud un o’r cyfraniadau mwyaf i gyllideb yr UE, ond nad oedd yn derbyn cymorthdaliadau amaethyddol i’r un graddau â gwledydd fel Ffrainc yn gyfnewid.

Fodd bynnag, mae’r trefniant wedi dod o dan bwysau cynyddol yn sgil aelodaeth llawer o wledydd tlotach o ddwyrain Ewrop a’r twf yn economi Prydain, sydd wedi gwneud Prydain yn un o wladwriaethau cyfoethocaf yr UE.

Awgrym Mr Barroso yw y dylai unrhyw ad-daliadau yn y dyfodol gael eu cyfrifo ar sail cyfoeth cymharol y gwledydd ar yr adeg y gosodir y gyllideb, yn hytrach na bod Prydain yn cael ei thrin fel achos arbennig.