Brenhines Prydain ar ymweliad lled ddiweddar ag Iwerddon.
Mae Brenhines Prydain wedi teithio i Gaeredin i agor Senedd yr Alban heddiw.

Dyma fydd y tro cynta’ i Elisabeth yr Ail agor Senedd sy’ dan reolaeth lwyr cenedlaetholwyr yr SNP.

Er i’r blaid honno gynnal llywdraeth leiafrifol yn ystod tymor diwetha’r Senedd, mi fyddan yr SNP yn medru llywodraethu heb yr angen am gydsyniad pleidiau eraill y tro hwn wedi iddyn nhw ennill mwyafrif clir a syfrdanol yn yr etholiad fis Mawrth.

Mae disgwyl i Lywordaeth dan arweiniad y Prif Weinidog Alex Salmond hawlio’r grym i fenthyg hyd at £200 miliwn i greu gwaith yn yr Alban, gwrthod codi mwy o orsafoedd niwclear a chynnig addysg prifysgol yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr o’r Alban sy’n astudio yn yr Alban.