Arwel Ellis Owen
Am y tro cyntaf ers 2003 mae’r nifer sy’n gwylio o leia’ dair munud o raglenni S4C bob wythnos wedi cynyddu.

Yn 2010 roedd 616,000 yn gwylio’n wythnosol, sef cynnydd o 12% ar y 549,000 yn 2009.

Bu gostyngiad o 2,000 yn y nifer yn gwylio yn ystod oriau brig, lawr o 30,000 i 28,000.

Mae Prif Weithredwr Dros Dro’r Sianel yn dweud bod y cynnydd wythnosol yn tawelu pryderon wedi cyfnod cythrublus yn hanes y sianel.

“Mae yna gynnydd pendant yn y gwylwyr wedi bod, cynnydd o ddeuddeg y cant dros y flwyddyn,” meddai Arwell Ellis Owen mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Mercher.

“A hynny er waethaf y pryderon naturiol oedd gan bobol y byddai Channel 4 yn peidio a bod yn rhan o amserlen S4C, y byddai’r gynulleidfa yn syrthio. Dyw hi ddim wedi syrthio. Mae hi wedi cynnal yn arbennig o dda yn ystod yr oriau brig.”

Atal y cwymp

Y nifer yn gwlio o leia’ tair munud o S4C yr wythnos:

2003 – 1,141,000

2004 – 1,040,000

2005 – 919,000

2006 – 864,000

2007 – 731,000

2008 – 664,000

2009 – 549,000

2010 – 616,000

Mwy yn gwylio dros y We

Yn ôl yr Adroddiad Blynyddol bu cynnydd o 44% yn y nifer yn gwylio rhaglenni S4C dros y We ar y gwasanaeth Clic.

Mae’r ffigyrau wedi eu cynnwys yn Adroddiad Blynydd S4C ar gyfer 2010, sy’n cynnwys rhagair gan y Prif Weithredwr Dros Dro – er mai ‘Prif Weithredwr’ yw teitl Arwel Ellis Owen yn y ddogfen ei hun.

Yn ei ragair mae’r Prif Weithredwr Dros Dro yn cyfeirio at y gwelliant ar ffigyrau 2009 a llwyddiant Clic.

‘Mae’r rhaglenni dan ni’n eu gwneud, dwi’n credu, yn rhaglenni y byddai unrhyw ddarlledwr yn falch ohonyn nhw. Wrth gwrs mae ’na fannau gwan yma ac acw – ond yn gyffredinol mae’n weddol glir imi erbyn hyn bod yr amserlen gyfredol yn un sy’n denu cynulleidfa fwy nag yn ystod 2009.

Mae’n ddiddorol hefyd sylwi sut mae pobol yn gwylio rhaglenni’r Sianel. Erbyn hyn mae pobol wedi dod i arfer ag aml blatfform – mae gwylio rhaglenni ar eich cyfrifiadur a’ch ffôn symudol yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r hawl a’r rhyddid mae’r gwylwyr yn ei gael i wylio rhaglenni pan mae’n ei siwtio nhw ar wasanaeth Clic yn amlwg yn llwyddo.’