Mae llawer o ddosbarthiadau gwag heddiw
Bore yma, mae cannoedd o filoedd o weithiwyr sifil, athrawon a gweithwyr eraill ledled Prydain wedi dechrau streic 24 awr.
Y disgwyl yw mae hon fydd y streic fwyaf ym Mhrydain ers rhai blynyddoedd.
Mae’r streic wedi ei threfnu mewn protest yn erbyn newidiadau dadleuol i’w cynlluniau pensiwn.
Mae llinellau piced wedi eu gosod tu allan i gatiau ysgolion, llysoedd barn, canolfannau gwaith ac adeiladau’r Llywodraeth.
Penderfynodd aelodau Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT), Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr (ATL), Undeb y Colegau a Phrifysgolion a’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol oll i streicio yn erbyn cynlluniau’r glymblaid yn San Steffan.
Mae gofid ymysg arweinwyr busnes y gallai’r streic gael effaith sylweddol ar economi’r wlad wrth i weithwyr gael eu gorfodi i aros adref gyda’u plant wrth i ysgolion gael eu gorfodi i gau.
Mae rhai o swyddfeydd y Llywodraeth wedi caniatáu i rieni ddod a’u plant i’r swyddfa gyda hwy mewn ymdrech i barhau â’u gwaith.
Mae hyd yn oed disgwyl i’r streic amharu ar deithwyr sy’n cyrraedd Prydain, gan bod swyddogion tollau a mewnfudo â’r gweithredu.