World Service y BBC
Mae Llywodraeth San Steffan wedi addo cyfrannu £2.2 miliwn ychwanegol at World Service y BBC ar ôl dod dan bwysau gwleidyddol mawr i atal toriadau i’r gwasanaeth.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, fod yr arian wedi ei glustnodi er mwyn helpu i dalu am wasanaeth Arabeg y BBC.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n ystyried ffyrdd o roi cymorth i wasanaeth Arabeg y BBC i barhau â’i waith gwerthfawr yn y rhanbarth,” meddai mewn datganiad.
“Rydyn ni’n cydnabod fod y byd wedi newid ers y setliad gwreiddiol ym mis Hydref y llynedd,” meddai, gan gyfeirio at y protestiadau ar draws y dwyrain canol.
Daw’r newid cyfeiriad ar ôl i ASau o bob plaid godi cwestiynau ynglŷn â’r toriadau o 16% i gyllideb £270 miliwn y World Service.
Roedd y newid yn rhan o’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr – a rewodd cyllideb y BBC a rhoi cyfrifoldeb dros ariannu S4C a’r World Service dan adain y gorfforaeth.
Dywedodd Cadeirydd Ceidwadol y Pwyllgor Materion Tramor, Richard Ottaway, fod y gwasanaeth yn hanfodol wrth ledaenu neges Prydain o amgylch y byd.
Croesawodd Ymddiriedolaeth y BBC y datganiad gan ddweud y byddai o gymorth wrth leihau effaith y toriadau.
Tro pedol?
Roedd embaras i’r Swyddfa Dramor wrth i’w gwefan eu hunain ddangos y pennawd “Tro pedol anferth ar ariannu World Service y BBC”.
Cafodd y pennawd ei newid yn ddiweddarach i “Adolygu nawdd World Service y BBC”.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran nad oedd y pennawd gwreiddiol yn adlewyrchu barn y Llywodraeth, a’u bod nhw wedi disgyblu aelod o’r staff.