Banc Lloegr
Mae ffigyrau ariannol yn awgrymu fod cynlluniau’r Canghellor George Osborne i leihau’r diffyg ariannol wedi dechrau gweithio.

Roedd cwymp bychan yn y swm yr oedd Llywodraeth San Steffan wedi ei fenthyg ym mis Mai.

Syrthiodd benthyca yn y sector gyhoeddus o £18.5 biliwn yn ystod mis Mai y llynedd i £17.4 biliwn eleni.

Mae’r Swyddfa Ddarbodus yn rhagweld y bydd y sector gyhoeddus yn benthyca £122 biliwn eleni. Hyd yn hyn maen nhw wedi benthyca £27.4 biliwn.

Roedd llywodraeth y glymblaid wedi benthyca £143.2 biliwn y llynedd, ychydig yn llai na’r £146 biliwn yr oedd y Swyddfa Ddarbodus wedi ei ragweld.

Cynyddodd gwario’r Llywodraeth 2.2% i £51.7 biliwn ar yr un mis y llynedd ond roedd cynnydd 8.2% i £51.7 biliwn mewn incwm treth.

Yn gynharach y mis yma roedd y Gronfa Arian Ryngwladol wedi dweud fod toriadau’r Canghellor yn “hollbwysig”.

Ond mae economegwyr wedi dweud y gallai’r toriadau llym arafu adferiad yr economi, fydd yn ei dro yn golygu fod y llywodraeth yn gwneud llai o incwm drwy drethi.

Syrthiodd Cynnyrch Domestig Gros 0.5% yn chwarter olaf 2010 cyn cynyddu 0.5% yn chwarter cyntaf 2011, gan arwain at bryderon ynglŷn â chryfder yr adferiad.