Ken Clarke (yup CCA 2.0)
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi gorfodi’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, i gefnu ar ei gynlluniau i haneru dedfrydau troseddwyr sy’n pledio’n euog yn gynnar.

Roedd hynny yn rhan allweddol o gynllun Kenneth Clarke i arbed £130 miliwn i’w adran ac mae’n golygu y bydd rhaid iddo ddod o hyd i doriadau eraill.

Roedd wedi dweud y byddai’r mesurau yn annog rhagor o droseddwyr i gyfaddef yn gynnar, gan arbed costau ac osgoi achos llys fyddai yn golygu rhagor o ofid i’r dioddefwr.

Ond mae’n debyg fod David Cameron wedi penderfynu y byddai lleihau dedfrydau yn tanseilio ei addewid i fod yn fwy llym â throseddwyr.

Mae dileu cynlluniau Kenneth Clarke yn debygol o blesio adain dde ei blaid ond dywedodd Harry Fletcher o undeb Napo y bydd yn arwain at gostau uwch a rhagor o bobol yn y carchar.

Roedd 85,345 o bobol yng ngharchardai Cymru a Lloegr ddydd Gwener – 150 yn unig yn fyr o’r record a osodwyd ym mis Hydref, sef 85,495.

Rhybuddiodd Harry Fletcher y bydd yna “dwll du difrifol” yng nghyllideb yr Ysgrifennydd Cyfiawnder o ganlyniad i’r penderfyniad.

Y Gwasanaeth Prawf

Dywedodd y Gweinidog Carchardai Crispin Blunt yr wythnos diwethaf y byddai yn bosib torri yn ôl ymhellach ar y Gwasanaeth Prawf – y ‘probation service’.

Mae’r gwasanaeth sy’n wynebu toriadau o 15% wedi ei “amddiffyn” rhag y toriadau o 23% sydd wedi effeithio ar weddill yr adran, meddai.

Ond rhybuddiodd Harry Fletcher fod toriadau i’r Gwasanaeth Prawf yn debygol o olygu fod rhagor o bobol yn aros yn y carchar yn hytrach na chael eu rhyddhau dan oruchwyliaeth.