Croes
Mae Archesgob Caerefrog wedi beirniadu llywodraeth gwledydd Prydain am beidio gwario digon ar helpu gwledydd tlota’r byd.

Mae’r Dr John Sentamu, yn dweud ei fod am weld “y gwerthoedd Prydeinig o chwarae teg a chyfiawnder” yn “disgleirio ar draws y byd, i bawb eu gweld”.

Fe wnaeth y sylwadau yn ystod yr wythnos pan y cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron bod ei lywodraeth yn ymrwymo £814m o arian ychwanegol i brynu brechiadau i bobol y Trydydd Byd. Roedd rhai’n dweud na allai Prydain fforddio’r ffasiwn swm.

Ond, mewn erthygl yn yr Yorkshire Post, meddai Dr Sentamu, 62 mlwydd oed: “Hoffwn ofyn cwestiwn i chi: beth ddylai ein prif flaenoriaeth fod, ai bywyd plentyn sy’n diodde’ mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig, ynteu arbed bywyd plentyn yn Affrica sy’n diodde’ o afiechyd sy’n bosib ei osgoi?

“Yr ateb yw, wrth gwrs, fod y ddau fywyd yn gyfwerth yng ngolwg Duw. Dyw sôn am flaenoriaeth ddim yn addas.

“Nid mater o un neu’r llall yw e,” meddai’r Archesgob. “Fe ddylen ni fod yn rhoi arian tuag at y ddau beth. Dylen ni gofio mai nid casgliad o ynysoedd yw’r Deyrnas Unedig – mae’n rhan bwysig o gymuned y byd.”

Mae Prydain yn gwario 7% o gyfoeth y wlad ar gynlluniau tramor.