Ed Balls - rhybudd
Ddylai’r undebau cyhoeddus ddim mynd ar streic tros bensiynau, meddai llefarydd economaidd yr wrthblaid.

Maen nhw mewn peryg o syrthio i mewn i fagl sy’n cael ei gosod gan Lywodraeth Prydain, meddai Ed Balls.

Roedd yn cyhuddo gweinidogion o geisio pryfocio’r undebau i weithredu, er mwyn defnyddio’r streiciau wedyn yn esgus am fethiant yr economi.

Mae nifer o undebau yn y sector cyhoeddus wedi rhybuddio’u bod ar fin dechrau ar y gweithredu diwydiannol mwya’ dwys ers y Streic Gyffredinol yn 1926.

Mae undeb y gweision sifil, y PCS, a thri o undebau athrawon, eisoes wedi pleidleisio o blaid streic undydd ddiwedd y mis a’r disgwyl yw y bydd undebau mawr eraill, fel Unison, yn ymuno mewn cyfres o streiciau cyson tros y misoedd nesa’.