Rhai o fôr-ladron Somalia
Mae tri dinesydd Prydeinig, un Americanwr a dau o Cenia wedi cael eu dedfrydu i o leia’ ddeng mlynedd yng ngharachar, am fynd â miliynau o bunnau o bres i mewn i Somalia.

Fe ddaeth cadarnhad gan lefarydd ar ran Swyddfa Wybodaeth y wlad fod dau o’r diffynyddion wedi eu dedfrydu i 15 mlynedd yng ngharachar, a’r gweddill ddeg.

Fe gafodd y dynion eu harestio yn Mogadishu fis diwetha’ wedi i swyddogion ddod o hyd i’r arian parod (doleri America) yn yr awyrennau yr oedden nhw’n teithio ynddyn nhw. Mae awyrennau’n cael eu defnyddio’n aml i gludo arian i fôr-ladron, felly maen nhw’n cael eu harchwilio yn gyson.