Vince Cable
Mae Ysgrifennydd Busnes llywodraeth glymblaid San Steffan, Vince Cable, wedi awgrymu’n gry’ iawn heddiw ei fod yn parhau i ffafrio creu treth newydd ar gyfer tai drud.

Wrth annerch ymgyrchwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, fe ddywedodd Mr Cable fod gwneud newidiadau i’r drefn drethu – gan roi mwy o bwysau ar y cyfoethog – yn “hollol ganolog” i ddiwygiadau y llywodraeth.

Tra bod nifer fawr o’r rheiny sy’n ennill cyflogau mawr yn gallu osgoi talu rhai trethi wrth symud eu harian o gwmpas y byd, fe ddywedodd ei bod yn bosib cael atyn nhw trwy drethu “tiroedd ac eiddo”.

Tra’r oedd ei blaid yn wrthblaid, roedd Vince Cable wedi awgrymu y dylid cyflwyno “treth ar blasdai” ar adeiladau a chartrefi sy’n werth mwy na £1m. Yna, newidiodd y trothwy i £2m. Ond yna fe chwalodd y polisi.

Fodd bynnag, tra’n annerch y Social Liberal Forum yn Llundain, fe wnaeth Mr Cable yn glir nad oedd wedi anghofio am y cynllun, nac wedi ei roi o’r neilltu.

“Fel plaid, mae’n rhaid i ni feddwl sut y mae modd cyflwyno cyfundrefn drethu decach mewn cymdeithas lle mae pobol yn symud o gwmpas llawer iawn – mae hynny, yn sicr, yn wir, am y bobol sy’n ennill y cyflogau mwya’,” meddai Vince Cable.

“Dw i’n meddwl fod hyn yn dod â ni’n ôl at diroedd ac eiddo,” meddai wedyn. “Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â chyfoeth eiddo, fel rhan ganolog o unrhyw ddiwygio o’r gyfundrefn drethu.”