Danny Alexander
Fe ddylai gweithwyr cyhoeddus helpu i lunio cynlluniau pensiwn newydd yn hytrach na’u gwrthwynebu, meddai un o weinidogion y Llywodraeth.

Camgymeriad yw bwriad tua miliwn o weithwyr i fynd ar streic ddiwedd y mis, yn ôl Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander.

Does dim dewis ond diwygio’r drefn bensiynau, meddai mewn erthygl ym mhapur y Daily Telegraph. Ac fe fynnodd y bydd y diwygio’n parhau.

Yn ystod yr wythnos, mae pedwar undeb wedi cyhoeddi y byddan nhw’n streicio ar 30 Mehefin – tri o undebau athrawon a darlithwyr a’r PCS sy’n cynrychioli tua 750,000 o weithwyr cyhoeddus a gweision sifil.

Maen nhw’n dadlau bod cynlluniau’r Llywodraeth am wneud iddyn nhw weithio rhagor, talu rhagor a chael llai.

Ymosod ar y streicwyr

Ond fe ymosododd Danny Alexander ar faint y bleidlais am streic – yn yr NUT, yr ATL a’r PCS, roedd tipyn llai na hanner yr aelodau wedi pleidleisio.

“Efallai bod y rhai sy’n gwrthod newid yn credu y gallan nhw orfodi’r Llywodrfaeth i newid ei meddwl. Camgymeriad anferth yw hynny,” meddai Danny Alexander.

“Fe fyddwn ni’n diwygio pensiynau’r gwasanaethau cyhoeddus. Dyma’r amser i siapio’r newid, nid i geisio’i rwystro.”