Fe gafodd 120,000 o bobol eu gorfodi i adael eu cartrefi oherwydd llifogydd mawr yn nwyrain China.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion Xinhua, roedd clawdd wedi torri a’r dŵr wedi llifo tros 18 o bentrefi yn rhanbarth Zhejiang.
Roedd 2,500 o dai wedi eu chwalu ac mae tua 350 o ffyrdd wedi eu cau.
Mae’r digwyddiad diweddara’n dilyn cyfnod hir o lawogydd trwm yn yr ardal, gydag adroddiadau fod cymaint â 170 o bobol wedi cael eu lladd.