George Osborne - rhybudd bod rhaid iddo newid
Dyw polisïau economaidd y Canghellor ddim yn gweithio ac mae angen iddo newid cyfeiriad, meddai casgliad o arbenigwyr ariannol, gan gynnwys dau o gyn brif economegwyr y Llywodraeth ei hun.

Mae’r 50 arbenigwr wedi sgrifennu llythyr at bapur yr Observer yn rhybuddio bod peryg i wledydd Prydain fynd i ail ddirwasgiad ar ôl cyfres o ffigurau a phroffwydoliaethau siomedig am yr economi.

Ond mae’r Trysorlys wedi dweud wrth y papur nad ydyn nhw’n gweld unrhyw reswm tros amau’r polisi o dorri’n chwyrn ar wario er mwyn ceisio lleihau’r ddyled genedlaethol.

‘Ddim yn gweithio’

“D’ych chi ddim yn ennill hygrededd trwy cadw at strategaeth sydd heb fod yn gweithio,” meddai’r llythyrwyr, sy’n cynnwys Jonathan Portes, cyn brif economegydd Swyddfa’r Cabinet.

Un arall o’r 50 yw Vicky Pryce a oedd yn gyn bennaeth gwasanaeth economaidd y Llywodraeth. Maen nhw’n rhybuddio bod peryg o banig.

Maen nhw hefyd yn galw am gyfres o newidiadau polisi, gan gynnwys ymgyrch i sathru ar bobol sy’n osgoi talu trethi, trethi uwch ar bobol gyfoethog a strategaeth ddiwydiannol sy’n cynnwys buddsoddi mewn technoleg werdd.