Mae un o gwsmeriaid Asda wedi derbyn £10,500 ar ôl iddo lithro ar rawnwinen yn un o siopau mawr y cwmni.

Mi ymddiheurodd Asda am fethu cwrdd â’i “safonau hynod uchel” yn dilyn yr achos yn Llys Sirol Peterborough.

Gorchmynodd y llys bod y cwmni’n talu iawndal o £10,500 i Thomas wardle – a thalu £18,000 o gostau cyfreithiol – wedi iddo lithro yn y siop yn Peterborough ym mis Ionawr 2008.

“Mae ganddon ni sawl proses drwyadl i sicrhau bod lloriau ein siopau yn cael eu cadw’n lân er mwyn atal unrhyw un rhag llithro neu syrthio.

“Mae’n wir ddrwg ganddon ni ar yr achlysur hwn na wnaethon ni gwrdd â’n safonau hynod uchel.”