Bydd y rhan fwyaf o Brydain yn mwynhau rhagor o dywydd poeth dros y penwythnos, ar ôl y gwanwyn cynhesaf ers 100 mlynedd.

Mae proffwydi’r tywydd yn dweud y bydd dechrau swyddogol yr haf yn sychach a chynhesach na’r arfer.

Mae disgwyl i’r tywydd twym gyrraedd heddiw a pharhau drwy gydol y penwythnos.

“Fe fydd y tywydd yn braf ymhobman dros y dyddiau nesaf,” meddai Allison Cobb o gwmni tywydd MeteoGroup.

“Fe fydd y tymheredd yn yr 20au canolig sydd yn gynhesach na’r arfer yr adeg yma o’r flwyddyn.”

Y tri mis diwethaf oedd yr ail wanwyn sychaf ar draws Cymru a Lloegr er 1910, a’r gwanwyn sychaf er 1990.

Doedd pethau ddim cystal yn yr Alban a dwyrain Lloegr, ond yng nghanolbarth Lloegr cyrhaeddodd y tymheredd cyfartalog 10.3C, yr uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1659.

Y tymheredd cyfartalog ar draws Prydain yn ystod y gwanwyn oedd 9.2C, yr uchaf ers 1910, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Dim ond 45% o’r glaw cyfartalog syrthiodd ar Gymru a Lloegr yn ystod mis Mawrth, Ebrill a Mai, yn ôl y ffigyrau swyddogol.

Ond syrthiodd 538.6mm o law ar Argyle yn yr Alban – bron i 100mm yn fwy na’r cyfartaledd.