Mae dau filwr o Brydain wedi cael eu lladd gan fom yn Afghanistan.
Roedd y ddau, o’r 42 Commando Royal Marines, ar batrol yn nhalaith Helmand pan gawson nhw eu lladd gan y ddyfais ffrwydrol ddoe.
Meddai llefarydd ar ran Tasglu Helmand, yr uwch-gapten Rolf Kurth: “Fy nyletswydd drist yw eich hysbysu o farwolaeth dau aelod o’r 42 Commando Royal Marines yn ardal Nad-e Ali o Dalaith Helmand.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau yn eu galar.”
Mae’r digwyddiad diweddaraf wedi codi cyfanswm marwolaethau milwyr o Brydain yn Afghanistan ers 2001 i 368.