Madeleine McCann
Bydd Heddlu Scotland Yard Llundain yn edrych o’r newydd ar y dystiolaeth yn achos diflaniad Madeleine McCann.

Daw’r ymchwiliad newydd wedi ple o’r galon gan Kate a Gerry McCann ar I David Cameron ei helpu nhw i ailgychwyn chwilio am eu merch, wnaeth ddiflannu o lety gwyliau ym Mhortiwgal yn 2007 ychydig cyn ei phen-blwydd yn bedair oed.

Mae Prif Weinidog Prydain wedi sgwennu at rieni’r ferch fach, I ddweud ei fod yn gofyn I’r heddlu ailedrych ar yr achos.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May fe fydd Heddlu Llundain yn defnyddio’i “arbenigedd penodol” i adolygu’r mater ac y byddai’r Swyddfa Gartref yn darparu’r “gefnogaeth ariannol angenrheidiol”.

Hunllef lwyr y rhieni

Mewn llythyr ar Kate a Gerry McCann, mae David Cameron wedi dweud: “Hunllef lwyr unrhyw riant yw eich profiad chi ac rwy’n teimlo i’r byw dros y ddau ohonoch. Fedra i ddim dychmygu eich loes dros y bedair mlynedd boenus yma, ac mae eich cryfder a’ch dygnwch wedi bod yn glodwiw.”