Heddlu
Mae detectifs wedi agor ymchwiliad mawr, wedi iddyn nhw ddod o hyd i gyrff dau oedolyn a dau blentyn mewn ty.

Mae Heddlu Swydd Northampton wedi cadarnhau fod y teulu, o dras Chineaidd, wedi ei ganfod yn farw mewn ty ar stad Wootton yn Northampton tua 6 o’r gloch neithiwr.

“Mae’r heddlu wedi agor ymchwiliad mawr, ac mae dros 30 o ddetectifs yn gweithio er mwyn gweithio allan sut y digwyddodd y marwolaethau hyn,” meddai llefarydd ar ran y llu.