William Hague
Mae llysgenhadon Prydeinig ar draws y byd wedi codi lefelau diogelwch yn wyneb pryderon y bydd yna ymosodiadau gan al Qaida yn dilyn marwolaeth Osama bin Laden.
Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, bod elfennau o’r grŵp terfysgol yn parhau i weithredu a bod angen bod yn wyliadwrus.
“Nid dyma ddiwedd bod yn wyliadwrus yn erbyn al Qaida a’r grwpiau sy’n gysylltiedig â nhw,” meddai William Hague.
“Dros yr wythnosau nesa’, fe allai rhannau o al Qaida fod yn ceisio dangos eu bod nhw’n parhau i weithredu.
“Felly, rwyf eisoes wedi gofyn i’r llysgenhadon i adolygu eu diogelwch i sicrhau bod gwyliadwriaeth ar ei uchaf a dyna fydd ein safiad am amser i ddod.”
Mae William Hague yn credu bod marwolaeth Osama bin Laden yn ergyd difrifol i al Qaida ac yn “ddatblygiad positif.”
Ond roedd yr Ysgrifennydd Tramor yn pwysleisio nad oedd y newyddion yn golygu diwedd ar yr ymgyrch filwrol yn Afghanistan.