Llun o wefan brotest
Fe gafodd swyddogion heddlu a phrotestwyr eu hanafu tros nos ar ôl rhagor o wrthdaro y tu allan i siop Tesco newydd ym Mryste.

Fe ddigwyddodd y protestiadau tua 1 y bore – ar ôl protest heddychlon yn gynharach. Roedd poteli wedi’u taflu ar swyddogion heddlu ger y siop yn ardal Stokes Croft.

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn dweud eu bod wedi gorfod “dal grŵp o brotestwyr” oedd yn gwisgo masgiau ac yn taflu poteli ac mae nifer o swyddogion wedi’u hanafu yn y digwyddiad.

Ar y llaw arall, mae protestwyr yn condemnion y tu allan i sgwat o’r enw Telepathic Heights – mae honno gyferbyn â’r siop Tesco sydd wedi ei hagor mewn hen glwb comedi o’r enw Jesters.

Roedd un o’r trefnwyr wedi ceisio canslo’r brotest, gan ofni gwrthdaro, ond fe fynnodd pobol eraill barhau.

Y cefndir

Fe ddaeth y brotest union wythnos ar ôl gwrthdaro cynharach ar ôl i 160 o blismyn gynnal cyrch ar y sgwat i arestio pedwar o bobol a oedd, medden nhw, “yn fygythiad i’r gymuned leol”.

Bryd hynny, fe gafodd cyfanswm o 20 o bobol eu harestio ac, yn ystod y ddeuddydd diwetha’, fe gafodd dau ddyn eu hanfon i Lys y Goron i wynebu cyhuddiadau’n ymwneud ag anhrefn a bwriadu i ddifrodi eiddo.

Mae’r protestio bellach yn gymysgedd o wrthdystio yn erbyn y siop ac yn erbyn tactegau’r heddlu. Mae pobol leol yn dweud fod gormod o siopau Tesco ym Mryste eisoes ac yn cyhuddo’r heddlu o orymateb.