milwyr yn Afghanistan
Mae’r SAS yn wynebu problemau recriwtio oherwydd bod milwyr yn rhy brysur gydag ymgyrchoedd milwrol yn Afghanistan i allu gwneud cais am le yn y gatrawd elît. 

Mewn llythyr sydd wedi dod i’r golwg, fe rybuddiodd y Brigadydd Richard Dennis bod y straen milwrol sydd ar fyddin Prydain yn Afghanistan yn effeithio ar recriwtio’r SAS. 

Mae’r SAS eisoes gyda diffyg rhifau oherwydd iddynt golli sawl aelod yn ystod ymgyrchoedd.  Er bod ystadegau clwyfedig yr SAS yn gyfrinachol, fe gafodd wyth aelod

o’r gatrawd eu hanafu’r ddifrifol mewn un ymosodiad yn Afghanistan llynedd. 

Yn y llythyr at bennaeth y Fyddin Gyffredinol, Syr Peter Wall, mae’r Brigadydd Richard Dennis yn nodi ei bryder o allu rheoli’r SAS yn gyflawn a bod angen gweithredu brys i wella ar nifer a safon ymgeiswyr.

Roedd y Brigadydd hefyd wedi nodi bod nifer o filwyr yn amharod i geisio am le yn yr SAS oherwydd yr ofn o fethu cael eu dewis.  Fe awgrymodd Richard Dennis bod angen i

benaethiaid byddinoedd i edrych allan a datblygu ymgeiswyr priodol. 

Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.