heddlu
Mae detectifs wedi arestio tri gwr ar amheuaeth o lofruddio cwpwl Eidalaidd oedrannus a ganfuwyd yn eu cartref ddydd Gwener.

Fe ddaethpwyd o hyd i Giseppe Massaro, 80, a’i wraig Caterina, 77, yn farw yn eu hystafell wely. Roedd car y cwpwl wedi ei gymryd o’u cyfeiriad yn Woden Road, Wolverhampton, ac fe ddaethpwyd o hyd iddo’n ddiweddarach yn Wednesfield gerllaw.

Mae llefarydd ar ran Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod tri dyn wedi eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

“Mae dau ddyn o Wolverhampton, 32 a 32 mlwyddyn oed, a gwr 30 oed o Birmingham wedi eu harestio neithiwr (nos Sul) ar amheuaeth o lofruddiaeth,” meddai’r llefarydd. “Maen nhw’n cael eu holi mewn gorsafoedd heddlu gwahanol yn yr ardal.”