Archesgob Caergaint
Mae gwir hapusrwydd mewn bywyd yn dod o “gyflawnder personol a chymunedol” yn hytrach na dilyn pethau materol, yn ôl Archesgob Caergaint heddiw.

Wrth draddodi Pregeth y Pasg yn Eglwys Gadeiriol Caergaint, fe siaradodd y Dr Rowan Williams am y llawenydd sy’n bosibl i’w deimlo pan mae pobol yn edrych oddi allan iddyn nhw’u hunain, ac yn ffurfio perthynas â phobol eraill yn y byd o’u cwmpas.

“Mae’n sicr yn beth da fod pobol wedi cydnabod yn gyhoeddus fod yna fwy i fywyd na gwneud elw,” meddai Rowan Williams, gan ganmol llywodraeth y glymblaid yn San Steffan am eu Cymdeithas Fawr. “R’yn ni’n dechrau dweud yn uchel fod llwyddiant materol y cwmniau mawr sydd wedi’i ysgaru’n llwyr oddi wrth hapusrwydd personol a chymunedol, yn rhywbeth gwag iawn.”

“Allwn ni ddim dod o hyd i ddedwyddwch go iawn wrth garu ni’n hunain yn unig,” meddai wedyn. “Allwn ni ddim creu hapusrwydd i ni’n hunain yn unig.”