Nick Clegg - ymosod ar Cameron

Mae’r dadlau rhwng dau arweinydd Llywodraeth y Glymblaid wedi cynyddu eto yn yr ymgyrch tros y bleidlais AV.

Roedd y Prif Weinidog yn ochri gyda charfanau asgell dde adweithiol, meddai ei Ddirprwy, Nick Clegg, gan ddweud fod yr ymgyrch ‘Na’ wedi ei seilio ar “gelwydd, camarwain a thwyll”.

Fe ddywedodd wrth bapur newydd yr Independent on Sunday fod peryg i David Cameron gael ei gysylltu gyda grwpiau fel y Blaid Gomiwnyddol a’r BNP sydd hefyd yn erbyn newid yn y drefn bleidleisio.

Fe ddywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’r ymgyrch ar gyfer y refferendwm ar 5 Mai yn golygu “anadl olaf” elît asgell dde a oedd eisiau dal eu gafael mewn grym.

Huhne yn ymosod hefyd

Mae un arall o arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymosod ar y Canghellor, George Osborne.

Yn ôl y gweinidog Cabinet, Chris Huhne, roedd y Canghellor yn dweud celwydd am gost cyflwyno AV.

Fe fydd yr ymosodiadau’n plesio llawer o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n credu bod Nick Clegg yn llawer rhy agos at y Prif Weinidog.